Fersiwn testun ar gyfer 'defnyddio peiriant ATM'
I godi £20 o ATM (Peiriant Teller Wedi'i Awtomeiddio) a chael derbynneb, dyma'r camau i'w dilyn:
- Gwiriwch fod y slot yn y peiriant yn edrych yn normal a bod neb wedi ymyrryd ag ef.
- Rhowch eich cerdyn yn y slot, gan sicrhau ei fod yn mynd i mewn yn y ffordd gywir.
- Dilynwch yr anogwr sgrîn: PLEASE ENTER YOUR PIN NUMBER
- Darllenwch yr anogwr sgrîn: PLEASE SELECT THE SERVICE REQUIRED (e.e. dangos gweddill, arian, arian gyda derbynneb, ychwanegiad ffôn symudol, minigyfriflen, gwasanaethau eraill).
- Dewiswch ‘arian gyda derbynneb’
- Darllenwch yr anogwr sgrîn: PLEASE SELECT THE AMOUNT REQUIRED (e.e. £10, £20, £30, £40, £50, £100, £200, Arall).
- Dewiswch £20
- Dilynwch yr anogwr sgrîn: YOUR REQUEST IS BEING PROCESSED PLEASE WAIT
- Dilynwch yr anogwr sgrîn: PLEASE TAKE YOUR CARD. YOUR CASH IS BEING COUNTED
- Darllenwch yr anogwr sgrîn: THANK YOU FOR USING NATWEST
Pan fyddwch yn defnyddio peiriant ATM rhoddir llawer o ddewisiadau i chi:
- Dangos gweddill – gallwch wirio faint o arian sydd gennych yn eich cyfrif
- Arian parod – gallwch godi arian heb gael derbynneb
- Arian gyda derbynneb – gallwch godi arian gyda derbynneb a fydd yn dweud wrthych faint a godwyd, lleoliad y peiriant, eich gweddill, dyddiad ac amser y codiad a faint mwy o arian gallwch ei godi y diwrnod hwnnw
- Ychwanegiad ffôn symudol – gallwch roi rhif eich ffôn symudol ac ychwanegu arian at y credyd ar eich ffôn.
- Minigyfriflen - gallwch gael allbrint yn dangos eich chwe throsglwyddiad diwethaf
- Gwasanaethau eraill – er enghraifft, gallwch newid eich rhif PIN neu ofyn am lyfr sieciau newydd.
Dyma wybodaeth ddefnyddiol ynghylch eich Rhif Adnabod Personol (PIN):
- Pan fydd y banc yn anfon eich cerdyn atoch, byddant yn anfon eich rhif PIN ar wahân am resymau diogelwch.
- Gallwch newid eich rhif PIN am rif cyfrin y gallwch ei gofio'n hawdd.
- Ni ddylech fyth roi eich rhif PIN i rywun arall neu ei ysgrifennu.
- Pan fyddwch yn teipio eich rhif PIN, gwiriwch nad oes neb yn edrych dros eich ysgwydd.
- Os ydych yn amau bod rhywun yn gwybod eich rhif PIN, cysylltwch â'r banc ar unwaith. Os na ofalwch eich bod yn cadw eich rhif PIN yn gyfrinachol, gallech fod yn atebol am unrhyw golledion o'ch cyfrif.
Cau'r ffenestr hon